Mae cyn-filwr a gafodd ei gyhuddo o hyfforddi gyda grŵp a fu’n brwydro yn erbyn lluoedd y Wladwriaeth Islamaidd (IS), wedi clywed na fydd yna unrhyw gamau pellach yn ei erbyn.
Roedd James Matthews, 43, o Dalston, dwyrain Llundain, wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiad ei fod wedi cyflawni trosedd frawychol trwy hyfforddi â’r grŵp yma.
Roedd disgwyl iddo ymddangos gerbron yr Old Bailey yn ddiweddarach eleni.
Ond bellach mae erlynwyr wedi cefnu ar yr achos yn ei erbyn, gan ddweud bod tystiolaeth newydd wedi dod i’r fei. Dydyn nhw ddim wedi rhannu’r wybodaeth honno.
Mae bargyfreithiwr James Matthews yn dweud bod y cyn-filwr yn “hapus” â’r penderfyniad, ond bod angen darparu “esboniad llawn a phriodol o’r hyn sydd wedi digwydd”.
Cefndir
Roedd James Matthews wedi bod hyfforddi â grŵp Cwrdaidd yn Irac a Syria yn 2016, ac yn wynebu achos llys am hyfforddi “gyda’r bwriad o ganiatáu neu baratoi brawychiaeth.”
Mae’n bosib mai dyma’r tro cyntaf i ddeddfwriaeth brawychiaeth gael ei ddefnyddio i erlyn unigolyn am gynorthwyo grŵp sydd yn derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.