Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried cynlluniau ar gyfer symud Theatr Felin-fach.
Mewn cyfarfod o’r Cabinet heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 31), fe gytunodd cynghorwyr i ymchwilio ymhellach i’r posibilrwydd o wneud y Theatr yn rhan o’r un safle ag ysgol ardal newydd Dyffryn Aeron.
Bwriad yr awdurdod lleol yw adeiladu’r ysgol newydd hon ar gampws Theatr Felin-fach, ac fe fydd symud y theatr yn digwydd os bydd y cynnig am yr ysgol newydd yn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor.
Opsiwn arall ar gyfer Theatr Felin-fach wedyn yw gwella’r adeilad presennol a’i adnoddau.
“Edrych i’r dyfodol”
“Mae Theatr Felin-fach wedi bod yn rhan bwysig o galon ddiwylliannol Ceredigion am ddegawdau ac mae’n cynnig cyfleoedd gwych mewn theatr gymunedol a chynnal cynyrchiadau cyfrwng Cymraeg,” meddai’r Cynghorydd Catherine Hughes, sy’n gyfrifol am bortffolio Diwylliant ar y Cabinet.
“Mae’n bwysig ein bod yn edrych i’r dyfodol i ystyried sut gallwn gefnogi ac adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud yn y Theatr.
“Mae penderfyniad y Cabinet yn galluogi’r Cyngor i ystyried ymhellach sut y gallwn wireddu hyn.”