Mae merch fach wedi marw yn Swydd Norfolk, a’r gred yw iddi gael ei thaflu oddi ar gastell bownsio.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Gorleston am 11.15 fore heddiw.

Cafodd y ferch fach ei chludo i’r ysbyty, lle bu farw.

Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, y cyngor lleol a’r heddlu yn cynnal ymchwiliad.

Mae teulu’r fach fach wedi cael gwybod.