Mae llofrudd wedi llwyddo i ddianc o’r carchar yn Ffrainc am yr ail waith.
Fe ddefnyddio Redoine Faid, 46, hofrennydd i adael y safle heddiw, yn ôl Gweinyddiaeth Gyfiawnder y wlad.
Funudau’n unig gymerodd hi i’r hofrennydd lanio ac i’r dyn sydd wedi’i garcharu am 25 mlynedd am ladd plismones lwyddo i ffoi.
Ni chafodd unrhyw un arall ei anafu yn y digwyddiad ym Mharis heddiw.
Mae’r heddlu’n chwilio amdano ac wedi dechrau cynnal ymchwiliad.
Dianc am yr ail waith
Yn 2013, llwyddodd Redoine Faid i ddianc o’r carchar ar ôl rhoi ffrwydron mewn pecynnau o hancesi papur.
Cafodd ei arestio mewn gwesty chwe wythnos yn ddiweddarach.