Mae dynes feichiog, ei gŵr a’u mab 16 mis oed wedi mynd ar goll o ardal Croydon.

Mae lle i gredu bod gan Eunice a Richard Keyrah a’u mab Joeking gysylltiadau â Chwm Rhondda, lle mae ganddyn nhw eiddo, ac mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn chwilio amdanyn nhw.

Yn ogystal â Chymru, mae ganddyn nhw gysylltiadau ag ardaloedd Llundain, canolbarth Lloegr a Swydd Norfolk.

Mae’r Uchel Lys wedi cyhoeddi apêl frys i geisio dod o hyd iddyn nhw yn dilyn pryderon y cwpwl y gallai eu mab gael ei gymryd oddi arnyn nhw. Mae barnwr hefyd wedi cyhoeddi gwarant i’w harestio.

Mae’r teulu’n hanu o Ghana.