Mae pedwar o ddynion wedi cael eu hanafu ar ôl cael eu trywanu mewn gŵyl gerddoriaeth yng ngogledd-ddwyrain Llundain.

Cafodd tri ohonyn nhw eu cludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad mewn parc gwledig yn Chigwell.

Roedden nhw yno ar gyfer gŵyl gerddoriaeth Garage Nation pan ddigwyddodd yr ymosodiad am oddeutu 7.35 nos Sadwrn.

Dydy bywydau’r pedwar ddim mewn perygl.

Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn.