Mae gyrwyr trenau’r Underground yn Llundain wedi pleidleisio tros streicio ar y diwrnod y bydd Donald Trump yn ymweld â’r brifddinas.
Maen nhw’n cofnodi eu protest yn erbyn amodau gwaith a staffio o fewn y gwasanaeth.
Fe fydd aelodau’r undeb RMT ar linell Piccadilly yn cerdded allan rhwng 9yb ar Orffennaf 11 tan funud wedi hanner nos, Gorffennaf 14.
Fe fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau ar ymweliad â gwledydd Prydain ar Orffennaf 13.
Mae tua hanner miliwn o deithwyr yn defnyddio llinell Piccadilly bob dydd, a honno yw’r rheilffordd sy’n cysylltu canol Llundain â maes awyr Heathrow.
Mae’r RMT yn cyhuddo cwmni London Underground o fethu â chyflogi digon o yrwyr, o redeg ‘hen’ drenau, ac maen nhw hefyd o dorri cytundebau.