Mae 11 o bobol, gan gynnwys chwe pherson diniwed, wedi cael ei lladd yn Afghanistan yn sgil ymosodiad gan yr Unol Daleithiau.

Yn ôl llywodraethwr talaith Nuristan yng ngogledd-ddwyrain y wlad, mi gafodd pum aelod o’r Taliban eu lladd ar ôl i drôn daro tŷ yn ardal Waygal.

Mae’n debyg bod pentrefwyr ac aelodau o’r Taliban wedi ymgasglu yn y tŷ wrth ymweld ag aelod o’r Taliban a gafodd ei anafu mewn ymosodiad arall.

Bu farw pob un yn y tŷ ar ôl i’r drôn ei daro.

Mewn ymosodiad ar wahân yn nhalaith Farah yn y gorllewin wedyn, mae swyddog y gwasanaethau gwybodaeth wedi cael ei saethu’n farw, ond dyw hi ddim yn hysbys eto pwy oedd yn gyfrifol am hyn.