Mae grŵp o gynghorau lleol a maer Llundain yn bwriadu mynd â Llywodraeth Prydain i’r llys, ar ôl i gynlluniau ar gyfer ehangu Maes Awyr Heathrow gael sêl bendith y senedd neithiwr.
Mi fydd yr her gyfreithiol yn cael ei lansio gan bedwar awdurdod lleol yn Llundain, gan gynnwys Wandsowrth, Richmond, Hillngdon a Hammersmith a Fulham.
Mi fyddan nhw’n cydweithio â’r elusen Greenpeace a maer dinas Llundain, Sadiq Khan, i wrthwynebu’r cynllun i greu trydydd llain glanio ym maes awyr mwya’ gweledydd Prydain.
Maen nhw’n honni bod y cynllun yn fygythiad i iechyd pobol a’r amgylchedd, a bod gweinidogion wedi methu ag ystyried yn llawn yr effaith y bydd trydydd glanfa yn ei chael ar lygredd yr aer.
Y frwydr yn parhau
“Mae’r cynllun hwn ar gyfer Heathrow wedi methu pob prawf diogelwch, ond eto mae gweinidogion wedi anwybyddu hyn a pherswadio’r mwyafrif o aelodau seneddol i ymuno â nhw,” meddai Prif Weithredwr Greenpeace UK, John Sauven.
“Ni fyddai’r Llywodraeth yn gallu mynd i’r afael ar lefelau anghyfreithlon o lygredd yr aer, heb sôn am adael amgylchedd iachâd i’r genhedlaeth nesa’, pe bae glanfa newydd Heathrow yn cael ei adeiladu.
“Os nad yw gweinidogion eisiau parchu’r cyfreithiau syn amddiffyn ni rhag mygdarthau gwenwynig a newid i’r amgylchedd, yna rydym ni’n mynd i ofyn i’r llys wneud hynny.”
Cefnogaeth Tŷ’r Cyffredin
Mi gafodd y cynllun ei gefnogi gan aelodau seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin o 415 pleidlais i 119.
Mae Llywodraeth Prydain yn credu y byddai’n creu 114,000 o swyddi ychwanegol yn yr ardal o gwmpas y maes awyr erbyn 2030.