O blith y 1,312 o unigolion sydd wedi’u gwahardd rhag mynd i Gwpan Pêl-droed y Byd yn Rwsia, mae 1,254 ohonyn nhw heb basport.
Maen nhw’n destun gorchymyn llys a naill ai wedi colli eu pasport fel rhan o’r gorchymyn hwnnw, wedi trosglwyddo eu pasport i’r awdurdodau o’u gwirfodd neu heb basport yn y lle cyntaf.
Mae’r heddlu wrthi’n ceisio dod o hyd i’r gweddill yn ystod y gystadleuaeth, sy’n gorffen yn Rwsia ar Orffennaf 15.
Fel rhan o’u hymdrechion, mae disgwyl iddyn nhw gynnal archwiliadau wrth i bobol adael gwledydd Prydain.
Gorchymyn llys
Diben y gorchymyn llys yw atal hwliganiaid rhag teithio dramor i wylio chwaraeon.
Gall gorchymyn bara hyd at ddeng mlynedd, a gall torri amodau’r gorchymyn arwain at ddirwy o hyd at £5,000 a chwe mis yn y carchar.
Roedd cefnogwyr dan y lach yn ystod Ewro 2016 yn Ffrainc am ymladd â chefnogwyr Rwsia a nifer o wledydd eraill.
Dywedodd Gweinidog Heddlu a Gwasanaeth Tân San Steffan, Nick Hurd: “Mae Cwpan y Byd yn ŵyl bêl-droed, ac nid yn lle ar gyfer trais neu anhrefn.
“Mae system gorchymyn gwahardd pêl-droed y DU yn unigryw ac yn golygu y bydd pobol sy’n bwriadu achosi trafferth yn Rwsia, yn hytrach, yn aros gartref.”
Mae disgwyl hyd at 10,000 o bobol o wledydd Prydain yn Rwsia ar gyfer y gystadleuaeth sy’n dechrau ddydd Gwener.