Mae Plaid Cymru a’r SNP yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o gipio grym oddi ar Gymru a’r Alban drwy’r drws cefn ar ôl rhuthro cyfres o bleidleisiau’n ymwneud â Brexit yn San Steffan neithiwr.

Mae’r ddwy blaid wedi eu cythruddo ar ôl i welliannau i’r Mesur Ymadael, sy’n ymwneud â materion sydd wedi’u datganoli, gael eu pasio ar ôl 15 munud o ddadl neithiwr. Daeth yr unig araith ar y gwelliannau gan Weinidog Swyddfa’r Cabinet, David Lidington.

“Fe wnaeth y ddadl ffarsaidd hon amlygu cyn lleied o ots sydd gan San Steffan am bryderon Cymru,” meddai Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyrain Caerfyrddin, Jonathan Edwards.

“Mae buddiannau cenedlaethol Cymru wedi cael eu hanwybyddu’n llwyr gan lywodraeth leiafrifol yn San Steffan sydd wedi bwrw’r Mesur hwn drwodd, heb amser i bleidleisio ar welliannau hanfodol i atal y cipio pwer cywilyddus.

“Mae’n destun anghrediniaeth nad oedd y Blaid Lafur, sy’n llywodraethu yng Nghymru, wedi gweld yn iawn i bleidleisio o gwbl ar welliant y llywodraeth.

“Allwn ni ddim parhau i adael i wlad arall ddweud wrthym sut i reoli ein materion ein hunain yn y modd yma. Mae angen i ni gefnogi ein senedd genedlaethol ein hunain yng Nghymru ac adeiladu sefydliadau cryf a fydd yn ein galluogi ni i hyrwyddo ac amddiffyn ein buddiannau cenedlaethol.”

Bygwth gwrthod cydweithio

Yn sgil y ffrae, mae’r SNP wedi bygwth gwrthod cydweithio â llywodraeth Prydain ar faterion sy’n ymwneud â Brexit.

Yn ôl arweinydd yr SNP yn San Steffan, Ian Blackford, mae’r mater “wedi cael effaith” ar berthynas llywodraethau’r Alban a Phrydain, ac fe wnaeth Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon droi at Twitter i ddweud nad oes gan y Ceidwadwyr “ddim parch” at yr Alban.

Dywedodd: “Ni fydd y ddadl fod yr Alban yn bartner cyfartal yn nhrefn San Steffan fyth eto’n cael ei chredu.”

Rhybuddiodd hefyd na fydd y modd y mae Llywodraeth Prydain wedi mynd o’i chwmpas hi’n “cael ei anghofio”.

Anghydweld

Daw’r ffrae ar ôl i weinidogion yn yr Alban a San Steffan fethu â chytuno ar yr hyn ddylai ddigwydd i’r pwerau sy’n dychwelyd i Lundain o Frwsel ar ôl Brexit.

Tra bod y Ceidwadwyr yn dadlau y dylai’r pwerau ddychwelyd i San Steffan, mae’r Alban yn gofidio y bydd cyfyngiadau ar y pwerau hyn am hyd at saith mlynedd oni bai eu bod yn dychwelyd yn uniongyrchol i Holyrood.

Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, David Mundell wedi dadlau na fyddai cytundeb yn bosibl oherwydd fod “gan Lywodraeth yr Alban, yr SNP a Nicola Sturgeon olwg gwahanol o’r cyfansoddiad i bawb arall”, ac na fyddai 100 awr o ddadl yn ddigon i ddod i gytundeb.

Wrth amddiffyn gweithred Llywodraeth Prydain, dywedodd mai “amser prin iawn” a gafwyd i gynnal dadl, ond fod pawb yn ymwybodol o’r dadleuon ar y ddwy ochr. Llafur gafodd y bai am brinder amser ganddo am eu bod nhw wedi gofyn droeon am sawl pleidlais

‘Cywilydd’

Wrth ymateb i sylwadau David Mundell, dywedodd Ian Blackford y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol “deimlo cywilydd” ac y dylai fod wedi “amddiffyn buddiannau’r Alban”.

Yn hytrach, meddai, mae e “wedi eistedd yn ôl a gwneud dim byd” ac fe ddylai “deimlo cywilydd” am y “gwarth democrataidd”.

Mae’r SNP wedi galw ar i David Mundell ymddiswyddo tros y mater “cywilyddus iawn, iawn”.