Er gwaetha’r twf ym mhrisiau petrol, doedd dim newid i lefel chwyddiant ym mis Mai.
Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau (ONS) yn dangos mai 2.4% oedd y gyfradd mis diwetha’, sef yr un gyfradd â mis Ebrill.
Daw hyn er gwaetha’r cynnydd ym mhrisiau petrol, gyda phris petrol yn cynyddu – rhwng Ebrill a Mai – gan 4.6 ceiniog y litr i 125.3 ceiniog, sef y cynnydd mwyaf ers Ionawr 2011.
Cynyddodd pris disel gan 4.7 ceiniog y litr i 129.2 ceiniog. Mae’n debyg mai tensiynau yn y Dwyrain Canol oedd yn gyfrifol am hyn.
“Negyddu’r effeithiau”
“Mae cwsmeriaid wedi bod yn talu mwy er mwyn llenwi eu ceir â thanwydd, a chynnydd mawr mewn prisiau olew sy’n gyfrifol am hynny,” meddai Pennaeth Chwyddiant yr ONS, Mike Hardie.
“Mi wnaeth costau teithio ar gyfer awyrennau a fferïau, hefyd gyfrannu at y cynnydd mewn chwyddiant oherwydd amseriad Pasg.
“Fodd bynnag, mae’r cwymp ym mhrisiau gemau cyfrifiadurol, a thwf llai yng nghostau egni, wedi negyddu’r effeithiau yma rhywfaint.”