Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May, wedi dweud bod yna lai o aelodau o Dŷ’r Arglwyddi heddiw, nag a oedd pan wnaeth hi ddechrau yn ei swydd ddwy flynedd yn ôl.
Roedd Theresa May yn ymateb i gwestiwn gan un o Aaelodau Saeneddol yr SNP, sydd wedi’i beirniadu am benodi 13 aelod newydd i ail siambr San Steffan ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.
Yn ôl Pete Wishart, yr Aelod Seneddol dros Perth a Gogledd Swydd Perth, roedd y Prif Weinidog yn euog o “stwffio” Tŷ’r Arglwyddi gydag 13 aelod newydd tra oedd “sylw’r genedl wedi’i ffocysu ar y briodas frenhinol”.
Fe gyfeiriodd yr Albanwr hefyd at Dŷ’r Arglwyddi fel “syrcas”, yn enwedig wrth i Fesur Ymadael Llywodraeth Prydain gael ei rwystro gan ei aelodau.
“Mae yna bellach dros 800 o’r crônis, noddwyr ac aristocratiaid yn y syrcas honno sydd i law y coridor, yn cywilyddio’r genedl hon ac yn gwneud sbort o unrhyw fath o ddemocratiaeth,” meddai Pete Wishart.
“Faint rhagor y mae hi’n mynd i’w penodi, a phryd fydd digon yn ddigon?”
Ymateb y Prif Weinidog
Mewn ymateb, fe ddywedodd Theresa May fod nifer yr aelodau yn Nhŷ’r Argwyddi wedi “gostwng” ers iddi ddechrau ei swydd ym mis Gorffennaf 2016.
“O glywed yr hyn mae e’n ei ddweud, byddwn i’n meddwl ei fod yn gwneud cais ei hun i fod yn aelod,” meddai. “Mae angen iddo gael gair gyda’i arweinydd.”
Yr aelodau newydd
Fe gafodd tri aelod newydd eu hychwanegu i Dy’r Arglwyddi ddydd Gwener diwetha’ (Mai 18), gyda naw ohonyn nhw’n bwriadu eistedd yn enw’r Blaid Geidwadol.
Mi fydd tri yn eistedd o dan enw’r Blaid Lafur, gydag un wedyn, sef William McCrea, yn cynrychioli’r DUP.