Mae Ysgrifennydd Tramor, Llywodraeth Prydain, wedi methu â denu cefnogaeth i’w syniad o gael “awyren Brexit” iddo’i hun, er mwyn gwerthu delwedd y Deyrnas Unedig ledled y byd.
Ac yntau ar daith o Dde America yr wythnos hon, fe ddywedodd Boris Johnson fod yr RAF Voyager – sy’n cael ei defnyddio gan y Prif Weinidog, aelodau pwysig o’r cabinet, ynghyd â’r teulu brenhinol – “byth ar gael” at ei ddefnydd ef a’i adran.
Fe awgrymodd hefyd fod lliw llwyd yr awyren yn tanseilio’r effaith y bydd yn ei gael ar ddelwedd y Deyrnas Unedig yn y byd.
“Fe ddywedaf i hyn am y Voyager, dw i’n meddwl ei bod yn grêt,” meddai, “ond mae’n anodd iawn i gael gafael arni.
“Dyw hi byth ar gael, am ryw reswm. Dw i ddim yn gwybod pwy sy’n ei defnyddio, ond dyw hi byth ar gael. Hefyd, pam mae’n rhaid iddi hi fod yn llwyd?”
Ymateb Rhif 10
Yn ôl llefarydd ar 10 Stryd Downing, nid oes “unrhyw gynlluniau” ar y gweill i newid y sefyllfa bresennol sy’n ymwneud â thrafnidiaeth.
Fe wnaeth hefyd gyfeirio at y ffaith bod yr awyren wedi’i baentio’n llwyd oherwydd ei fod, fel awyren filwrol, yn cael ei ddefnyddio o hyd am “bethau pwysig” fel cario tanwydd.