Mae dyn yn ei 50au wedi marw, ar ol cael ei ganfod yn anymwybodol yn y stryd yn nwyrain Llundain.
Fe gafodd yr heddlu ac ambiwlans eu galw i Barking tua 6yb heddiw (dydd Mercher, Mai 9).
Mae marwolaeth y dyn yn cael ei thrin fel un heb eglurhad, yn ol Scotland Yard.