Mae dyn, 24, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, yn dilyn gwarchae arfog yn Rhydychen.

Cafodd heddlu arfog eu galw i Paradise Square am tua 1.15yp ddydd Llun (Mai 7) yn dilyn adroddiadau am ddyn gyda dryll.

Yn ôl Heddlu Thames Valley, cafodd bwledi eu tanio o dŷ yno, ac fe saethodd swyddogion at yr adeilad.

Daeth y sefyllfa i ben am 3yb ddydd Mawrth (Mai 8), ar ôl peth trafod rhwng y dyn a’r plismyn.

Cafodd un person ei anafu, ac mae’r dyn a gafodd ei arestio, bellach yn y ddalfa.