Mae disgwyl penderfyniad heddiw gan Arlywydd yr Unol Daleithiau ynglŷn â dêl niwclear Iran.  

Cafodd y cytundeb ei lunio yn 2015, gyda’r nod o wanhau rhaglen ynni niwclear Iran a’i hatal rhag creu arfau niwclear.

Mae Donald Trump eisoes wedi gwrthod y ddêl, ond dyw hi ddim yn glir os fydd yn bwrw ati yn awr i gefnu arni’n gyfan gwbwl, neu alw am ragor o drafod.

Er gwaetha’ gwrthwynebiad America, mae’r Deyrnas Unedig ac arweinyddion Ewropeaidd yn gefnogol i’r cytundeb.

Yn ogystal, mae Iran wedi awgrymu y byddai modd cynnal y ddêl – boed yr Unol Daleithiau yn rhan ohoni ai peidio – cyn belled a bod gwledydd eraill yn parhau i’w chefnogi.