Mae gorsaf drenau Caerdydd Canolog ymhlith y 10 gwaethaf yng ngwledydd Prydain, yn ôl ffigurau newydd.

Dim ond 75% o deithwyr ddywedodd eu bod nhw’n “fodlon” gyda’r orsaf, yn ol ffigrau Transport Focus.

Gorsaf Glasgow Queen Street oedd y gwaethaf gyda dim ond 58% o deithwyr yn dweud eu bod nhw’n fodlon gyda’r orsaf.

Yr ail waethaf oedd yr orsaf sy’n gwasanaethu maes awyr Gatwick, gyda Rhydychen,  Clapham Junction, Victoria yn Llundain a Hull hefyd ymhlith y deg.

Roedd y pedair gorsaf a ddaeth i’r brig yn rhai sydd wedi cael eu hadnewyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf – King’s Cross yn Llundain, St Pancras yn Llundain, Birmingham New Street (92%) a Reading.

Roedd y corff annibynol Transport Focus wedi holi mwy na 28,000 o deithwyr yn ystod mis Medi a Thachwedd y llynedd.