Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn bwriadu cynnal gorymdaith drwy’r ddinas i ddathlu llwyddiant y tîm ar ôl sicrhau eu lle yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf.
Mae’n dilyn gem gyfartal yn erbyn Reading yn Stadiwm Caerdydd ddydd Sul, 6 Mai.
Fe fydd rhagor o fanylion ynglŷn â’r dathliadau yn cael eu datgelu rywbryd ddydd Mawrth.
Dywedodd prif weithredwr yr Adar Gleision Ken Choo ei fod yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Sul gyda chyfle i’r cefnogwyr a’r chwaraewyr ddiolch i’w gilydd.
Mewn neges i’r cefnogwyr dywedodd Ken Choo: “Hebddoch chi a’ch cefnogaeth anhygoel, fyswn ni ddim wedi cyrraedd yr Uwch Gynghrair,” gan ychwanegu bod gwahoddiad agored iddyn nhw ddod i’r orymdaith.
Fe fydd tîm Neil Warnock yn wynebu cewri Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf am y tro cyntaf ers 2014.