Mae Heddlu’r West Midlands yn credu mai ynosodiad bwriadol oedd hwnnw ar ddau fachgen yn eu harddegau y tu allan i fosg yn Birmingham, lle cafodd y ddau eu taro gan gar.

Ond dydi’r digwyddiad ddim yn cael ei gysylltu â brawychiaeth o gwbwl.

Mae ditectifs yn ceisio dod o hyd i gar lliw arian a fethodd â stopio y tu allan i’r mosg ar Ettington Road, Aston, tua 2.15yp ddydd Gwener, Ebrill 27.

Mae dyn 19 oed yn yr ysbyty gydag anafiadau i’w ben a’i gen, ac mae bachgen 17 oed hefyd yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth i’r ben a’i goes.