Pe byddai’n rhaid i’w olynydd fedru siarad Cymraeg, fe fyddai hynny’n anfon “neges wael” i bedwar o bob pump o boblogaeth Cymru sydd ddim yn siarad yr iaith.

Dyna farn Carwyn Jones, mewn cyfweliad gyda golwg360 heddiw.

Union wythnos ers iddo gyhoeddi – yn annisgwyl – y bydd yn camu o’r swydd ddiwedd eleni, mae Carwyn Jones yn dweud ei bod hi’n hollbwysig i’r swydd fod ar agor i “unrhyw un”.

“Bydd hi’n anodd dweud wrth bobol Cymru bod rhaid i’r Prif Weinidog siarad Cymraeg,” meddai. “Mae hwnna’n meddwl bod 80% o’r boblogaeth, bod dim hawl iddyn nhw fod yn Brif Weinidog. Mae hwnna’n neges wael.

“Dw i ddim yn credu bod rhaid i’r Prif Weinidog siarad Cymraeg.”

Ond mae medru’r Gymraeg, meddai wedyn, yn ei gwneud hi’n haws i wleidydd wneud cysylltiad go iawn â phobol ym mhob rhan o Gymru…

“Mae hynny’n wir, achos chi’n gallu siarad dwy iaith, chi’n siarad Cymraeg a Saesneg, wrth gwrs… gallwch chi wneud cyfweliadau yn ddwyieithog… ond dyw hwnna ddim yn rheswm pam bod rhaid cael rhywun sy’n ddwyieithog.

“Mae’n hollbwysig bod swydd y Prif Weinidog ar agor i unrhyw un,” meddai Carwyn Jones wedyn, “a dw i ddim yn credu bod rhaid i rywun siarad Cymraeg er mwy bod yn Brif Weinidog Cymru.”