Mae cannoedd o Balesteiniaid wedi ymgasglu o gwmpas ffin Llain Gaza, gan geisio rhwygo trwy’r ffens.

Mae beth bynnag dri Palesteiniad wedi’u lladd, ac mae cannoedd wedi’u hanafu wedi i fyddin Israel danio ar y protestwyr.

Mae Israel yn gwrthod y feirniadaeth o bob cwr o’r byd, gan ddweud mai’r cyfan y mae ei lluoedd yn ei wneud yw amddiffyn ei thiroedd. Mae Israel hefyd yn cyhuddo arweinwyr Hamas yn Gaza, sy’n trefnu’r protestiadau, o ddefnyddio’r dorf er eu dibenion eu hunain.

Yn ystod protestiadau dydd Gwener, fe ddaeth torf o ryw ychydig gannoedd o bobol o fewn i ychydig fetrau o’r ffin, gyda rhai ohonyn nhw’n taflu cerrig ac yn rhoi teiars ar dân.

Yn hwyrach ddydd Gwener, fe geisiodd rhai dwsinau o ddynion ifanc dorri’n rhydd oddi wrth weddill y dorf, a dod yn nes at y ffens a cheisio torri trwyddi. Dyna pryd y dechreuodd lluoedd Israel danio atyn nhw.

Fe redodd cannoedd yn rhagor o bobol i’r fan unwaith y dechreuodd y saethu, ac fe gynyddodd nifer y dynion wrth y ffens i rai miloedd. Fe ddaeth cerbydau arfog Israel yno wedyn, gan danio nwy dagrau at y Palesteiniaid, yn ol adroddiadau.

Mae swyddogion iechyd y Palesteiniaid yn cadarnhau fod tri o bobol wedi’u lladd a 611 o bobol wedi’u hanafu. O blith y chwe chant, mae 138 wedi’u saethu gan fwledi.