Mae Heddlu’r Met wedi cadarnhau fod y wraig a gafodd ei bwrw gan lwyth o frics a gwympodd o afael craen ar safle adeiladu yn Llundain, wedi marw o’i hanafiadau.
Mae’r corff eto i gael ei adnabod yn ffurfiol, ac fe fydd prawf post mortem yn cael ei gynnal.
Fe gafodd yr heddlu eu galw yn wreiddiol toc wedi 9.30yb ddydd Mawrth, Mawrth 27, i Burdett Road ar y gyffrodd â St Paul’s Way yn ardal E3. Yn ol adroddiadau, roedd gwraig 29 oed wedi’i hanafu’n ddifrifol.
Fe gafodd Gwasanaeth Ambiwlans Llundain hefyd ei alw, ac fe gafodd y ddynes ei chludo i ysbyty yn nwyrain y ddinas.
Mae ditectifs yn cynnal ymchwiliad mewn cydweithrediad â’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.