Mae’r grŵp cymunedol a oedd wedi bwriadu prynu safle hen ysgol uwchradd yng Ngheredigion, yn dweud bod ganddyn nhw “ddiddordeb o hyd” ynddi.
Ddechrau’r wythnos (dydd Mawrth, Mawrth 27), fe gyhoeddodd cabinet Cyngor Sir Ceredigion y byddan nhw’n gwerthu safle hen Ysgol Dyffryn Teifi yn Llandysul mewn tri darn.
Daw hyn ar ôl i’r grŵp, Plant y Dyffryn, fethu â chodi digon o arian i brynu’r safle gyfan, er gwaetha’r ffaith i’r cyngor ohirio ocsiwn er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw.
“Roedd e bron yn anochel, i ddweud y gwir,” meddai un o aelodau Plant y Dyffryn, Peter Evans, wrth golwg360, gan gyfeirio at benderfyniad diweddaraf yr awdurdod.
“Mae’n drist. Os bydde Plant y Dyffryn wedi cael gafael ar yr arian, falle bydden nhw wedi gallu gwneud rhywbeth ag e…”
Gobeithion y grŵp
Bwriad Plant y Dyffryn, a oedd yn cynnwys trigolion tref Llandysul a chyn-ddisgyblion Ysgol Dyffryn Teifi ymhlith eu haelodau, oedd prynu’r safle er mwyn ei datblygu’n ganolfan ar gyfer y gymuned leol.
Ac er gwaethaf derbyn £11,000 gan randdeiliaid mewn cyfnod o chwe mis, a hynny ar ôl dau gyfarfod cyhoeddus, bu cais y grŵp am arian gan y Loteri Cenedlaethol yn aflwyddiannus.
Ond wrth edrych tua’r dyfodol, mae Peter Evans yn dweud bod gan Blant y Dyffryn “ddiddordeb o hyd” yn y safle, yn enwedig yn y rhan ohoni sy’n wynebu’r pwll nofio a Chanolfan Tysul.
“Bydde diddordeb gyda ni yn hwnna,” meddai. “Ond bydd rhaid i ni, Plant y Dyffryn, ddod ynghyd nawr unwaith eto i drafod er mwyn gweld beth yw’r amcanion o’r newydd, ac i weld pa bris maen nhw wedi’i roi ar y darn yna.”
Plant o’r Dyffryn “o’r newydd”
Er hyn, mae’n ychwanegu ei fod yn “amau” mai’r pwyllgor gwreiddiol a fydd yn trafod y mater uchod, oherwydd bod nifer o’r aelodau wedi “gwasgaru”, gyda nifer ohonyn nhw i ffwrdd mewn prifysgolion.
Ond mae’n gobeithio y daw Plant y Dyffryn “o’r newydd” i geisio prynu’r safle.
“Mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth. Dyna beth oedd yn sbarduno pawb… doedd neb ishe gweld y lle’n mynd ar ei waethaf.”
Dyma fideo o Peter Evans yn sôn am yr hyn yr oedd Plant y Dyffryn wedi bwriadu ei wneud â’r safle…