Mae ditectifs sy’n ymchwilio i achos o wenwyno yn Salisbury, wedi datgan mai ar ddrws tŷ cyn-ysbïwr y mae’r lefel mwyaf o’r sylwedd wedi ei ddarganfod.

Mae Sergei Skripal a’i ferch Yulia yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad â’r cemegyn Novichok ar Fawrth 4.

Ar handlen drws tŷ Sergei Skripal y mae’r crynodiad uchaf wedi’i ddarganfod, ac mae ditectifs yn credu mai dyma lle y daeth ef ar draws y cemegyn am y tro cyntaf.

“Yn sgil hyn, byddwn yn canolbwyntio ar y cyfeiriad [ar Christie Miller Road] a’r ardal o gwmpas,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu gwrth-frawychol.

“Fe fydd pobol sy’n byw yn yr ardal yn gweld swyddogion o gwmpas y lle yn cynnal chwiliadau. Ond, hoffwn dawelu eu meddyliau a nodi bod y risg iddyn nhw yn parhau’n isel.”

Cefndir

Cyn-ysbïwr Rwsiaidd yw Sergei Skripal, ac mae’r Deyrnas Unedig wedi cyhuddo Mosgow o fod yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Mae Rwsia yn gwadu’r cyhuddiadau ac wedi awgrymu mai swyddogion cudd-wybodaeth o Brydain oedd ynghlwm â’r ymosodiad.

Hyd yma mae 26 o wledydd wedi ymateb i’r ymosodiad trwy ddiarddel 130 o ddiplomyddion Rwsiaidd – diplomyddion sydd dan amheuaeth o fod yn ysbiwyr.