“Beth am fwrw ati” yw agwedd pobol pentref Cwm ger Glynebwy tuag at Brexit, yn ôl eu cynrychiolydd ar Gyngor Blaenau Gwent.
O holl gynghorau Cymru, yr awdurdod lleol hwn oedd yr awdurdod oedd fwyaf cefnogol i adael yr Undeb Ewropeaidd yn ystod refferendwm 2016, gyda 62% yn pleidleisio o’i blaid.
Ac yn ôl Cynghorydd ward Y Cwm, Gareth Leslie Davies, dydy agweddau’r trigolion ddim wedi newid ers hynny, gydag ef ei hun yn cefnogi Brexit.
“Mae’r rhan fwyaf o bobol [yn y pentref] yn dweud yn awr, ‘rydym wedi cael y refferendwm, mae’r penderfyniad wedi’i wneud, beth am fwrw ati’,” meddai wrth golwg360. “Dw i’n credu hynna.”
“Dw i eisiau gweld yr Alban, Iwerddon, Lloegr a Chymru fel un, yn byw â’i gilydd ac yn gweithio â’i gilydd. Dw i am weld rhagor o bethau yn dod yma, i’r Cymoedd.
“Ydyn, rydyn ni wedi bod yn ocê, ond rydym ni wedi talu llawer o’n harian i’r Undeb Ewropeaidd hefyd.”
Dur
Pentref ôl-ddiwydiannol yw Cwm, sydd yn ôl y cynghorydd wedi colli ei weithfeydd dur a’i ddiwydiant glo, ac sydd “wir angen cael ei adfywio”.
Mae Gareth Leslie Davies yn cydnabod y gallai beth sy’n weddill o ddiwydiant dur Cymru gael ei “taro’n galed” gan dariffiau pe bai yna Brexit caled.
Ond, mae’n tynnu sylw at bolisïau sydd wrthi’n cael eu cyflwyno yn yr Unol Daleithiau, a’n awgrymu eu bod yn fodel i ddilyn.
“Dw i methu dweud fy mod yn anghytuno ag America,” meddai. “Oherwydd wnes i weithio yn y diwydiant dur am 40 blynedd, ac mae’r tariffiau maen nhw wedi’u codi yn amddiffyn y gweithwyr dur.
“A hoffwn feddwl y gallwn amddiffyn ein gweithwyr dur ni. Oherwydd dydi’r mewnlifiad, atom, o ddur Rwsiaidd ddim yn beth newydd. A’r dur Tsieineaidd.
“Rydyn ni’n mewnforio mwy nag yr ydym yn allforio, sydd yn wallgof!”