“Mae yna gyfleoedd yn sicr, ond mae yna broblemau hefyd ar y gorwel” meddai pysgotwr o Ben Llŷn, gyda Brexit flwyddyn union i ffwrdd.
Mae Sion Williams yn pysgota yn ardal Porth Colmon, ac yn pryderu am “gymhlethdodau” a allai ddod o allforio cynnyrch, gan gynnwys y “border checks” bondigrybwyll.
Yn ei farn ef, mi fyddai hynny’n sicr o beri trafferth, a gan fod pysgotwyr Cymru yn ddibynnol ar farchnad y cyfandir mae’n nodi ei bod yn “bwysig” diogelu’r cyswllt hwnnw.
“Mi fydd yna gyfleoedd i’r diwydiant yng Nghymru, os ydan ni’n cael be maen nhw wedi addo i ni,” meddai Sion Williams wrth golwg360.
“Ond y broblem ydi, fel dw i’n dweud, ar hyn o bryd mae’r fflyd sydd gyda ni yng Nghymru yn gwerthu 90% i fewn i Ewrop.”
“Briwsion bwrdd”
Er hyn mae Sion Williams yn gymharol obeithiol am Brexit, yn rhannol oherwydd ei rhwystredigaeth â’r drefn sydd ohoni.
Rhai blynyddoedd yn ôl cafodd sustem y TAC (Cyfanswm y Ddalfa a Ganiateir) ei gyflwyno gan yr Undeb Ewropeaidd, sy’n cyfyngu nifer y pysgod sy’n medru cael eu dal gan bysgotwyr.
Mae hynny ynghyd â’r sustem ‘Cydraddoldeb Mynediad’ – sy’n galluogi pysgotwyr o wledydd Ewrop i bysgota yn nyfroedd ei gilydd – wedi gadael ond y “briwsion bwrdd” i Gymru, meddai Sion Williams.
Pysgod cregyn
“Fasach chi ddim yn medru byw ar jest dal pysgod,” meddai wedyn. “Ac mae hyn wedi gwthio pysgotwyr Cymru i fewn i bysgota cregyn, a dal pysgod sydd ddim ar y TAC – draenog y môr a rhai mathau o bysgod fflat.
“Yn bennaf rydan ni’n dal crancod, cimychiaid, gwichiaid moch, cregyn bylchog, cranc heglog ac yn y blaen. Mae Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon – mae’r rheiny gyda llynges o gychod pysgota mawr.
“Dw i’n siŵr bydd [Brexit] yn fanteisiol i rheiny pe baen nhw’n gadael.”