Mae cwmni bwyd cyflym McDonald’s yn mynd i fod yn treialu gwelltyn papur yn eu bwytai yng ngwledydd Prydain, mewn ymgais i dorri i lawr ar eu defnydd o blastig.
Fe fydd y cwmni hefyd yn gwneud yn siwr bod y gwellt yfed yn cael eu rhoi i gwsmeriaid gan weithwyr, yn hytrach na bod ar gael i bobol helpu’u hunain iddyn nhw.
“Mae torri i lawr ar ein defnydd o blastig yn fater anferth i ni,” meddai llefarydd ar ran McDonald’s. “Mae’n bwysig i’n busnes, i’r sector bwyd, ac i’r gymuned gyfan.
“Mae McDonald’s wedi ymrwymo i achosi cyn lleied ag y medrwn ni o effaith ar yr amgylchedd, ac rydan ni eisiau bod yn rhan o’r ateb i’r broblem.
“Mae ein gwellt yfed eisos yn rhai y mae’n bosib eu hailgylchu, ond rydan ni’n gwybod y gallwn ni wneud mwy.”