Mae Swyddfa Dramor Rwsia wedi cyhuddo Prydain o wenwyno’r cyn-ysbïwr Sergei Skripal a’i ferch Yulia yn Salisbury.
Daw’r ymateb ar ôl i Lywodraeth Pydain gyhuddo Rwsia o ddefnyddio y nwy nerfol, Novichok, i wenwyno’r ddau mewn bwyty.
Mae Rwsia’n gwadu’r cyhuddiadau, gan ddweud eu bod heb sail, ac mae Prydain hefyd yn gwadu honiadau Rwsia fod methiant Prydain i ddarparu tystiolaeth ar gyfer eu honiadau nhw’n awgrymu fod ganddyn nhw ran mewn gweithred wleidyddol.
Mae mwy nag ugain o wledydd wedi gwahardd 130 o ddiplomyddion Rwsiaidd yn dilyn y digwyddiad – ac mae Rwsia’n dweud eu bod yn bwriadu dial.