Mae plant ysgol a phobol ifanc yn ne ddwyrain Cymru, yn cael eu hannog i gael brechiadau MMR yn sgil achosion o’r frech goch yn yr ardal.
Hyd yma mae 14 achos wedi cael eu cadarnhau yng Nghaerdydd a Blaenau Gwent yn bennaf, ac mae’n debyg bod yr haint yn “cylchredeg” yno o hyd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes wedi cysylltu ag ysgolion, colegau a phrifysgolion yn yr ardal i dynnu eu sylw at y risg, ac mae Byrddau Iechyd wrthi’n cynnal sesiynau brechu.
“Dydi’r achosion ddim wedi troi’n broblem ehangach eto, ac rydym eisiau delio â hyn cyn i bethau waethygu,” meddai Dr Gwen Lowe, ymgynghorydd i Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Symptomau
Mae llygaid coch, pesychu a gwres uchel ymhlith symptomau’r clefyd, ac mae’n debyg ei fod yn medru arwain at farwolaeth mewn achosion prin.
Dylai unrhyw un sy’n pryderu bod ganddyn nhw’r clefyd, sicrhau eu bod yn osgoi llefydd prysur llawn pobol gan fod y clefyd yn lledaenu’n hawdd.