Mae cyn-Weinidog Addysg Catalwnia, yr Athro Clara Ponsati yn y ddalfa yng Nghaeredin ar ôl mynd at yr heddlu o’i gwirfodd.
Roedd gwarant wedi’i gyhoeddi i’w harestio am ei rhan yn refferendwm annibyniaeth ei mamwlad fis Hydref y llynedd.
Mae awdurdodau Sbaen yn honni ei bod hi’n euog o wrthryfel treisgar a chamddefnyddio arian cyhoeddus.
Mae hi’n gwadu’r cyhuddiadau, ond mae disgwyl iddi gael ei harestio’n ffurfiol heddiw.
Bydd hi wedyn yn mynd gerbron llys yn y ddinas yn ddiweddarach.