Mae aderyn y to wedi dod i’r brig mewn arolwg blynyddol o adar gerddi Cymru unwaith eto – er bod llai wedi eu gweld eleni.
Fe gymrodd bron i 24,000 o bobol ran yn arolwg ‘Gwylio Adar yr Ardd’ yr RSPB, a chafodd 431,747 o adar eu cofnodi a’u cyfri’.
Aderyn y to oedd yr aderyn wnaeth gael ei weld amlaf yng Nghymru, gyda’r titw tomos las yn ail, a’r ddrudwen yn drydydd.
Ar gyfartaledd, fe gafodd aderyn y to ei weld 6.1 o weithiau ym mhob gardd.
Yr ymwelwyr mwyaf cyffredin yn ein gerddi oedd yr aderyn du a’r robin goch, gyda’r adar yn cael eu gweld mewn bron i 90% o erddi yng Nghymru.
Gwrthdroi dirywiad
“Gyda mwy o adar nag erioed ar y Rhestr Goch yng Nghymru, mae gwyddoniaeth dinasyddion yn rhan allweddol o benderfynu ar gyflwr ein poblogaethau adar,” meddai Stephen Bladwell, Rheolwr Bioamrywiaeth RSPB Cymru.
“Gobeithio na fydd y tywydd oer diweddar yn effeithio ar boblogaethau’r adar bach anhygoel hyn, a byddwn ni i gyd yn eu gweld yn ôl yn ein gerddi y flwyddyn nesaf.
“Drwy wneud ein rhan i’w helpu nhw, rydym yn gobeithio y gallwn ni gyfrannu at y gwaith o wrthdroi rhai dirywiadau.”
Twf a chwymp
Dyma ffigyrau sy’n dangos faint o gynnydd a chwymp fu yn niferoedd yr adar gafodd eu gweld a’u cofnodi (o gymharu â’r llynedd):
- pila gwyrdd (+28.7%)
- titw cynffon hir (+26.4%)
- titw penddu (+20.4%)
- dryw eurben (+14%)
- llwyd y berth (-7.3%)
- aderyn y to (-12.6%)