Mae nifer yr achosion o drais yn erbyn pobol ifanc sy’n cael eu dal mewn canolfannau ar eu cyfer, wedi cyrraedd lefel “hanesyddol o uchel” – er bod cwymp wedi bod yn nifer y plant ac oedolion ifanc sydd dan glo.
Mae ystadegau a gyhoeddwyd yr wythnos hon mewn papur gan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi, yn dangos bod 909 o bobol ifanc o dan 18 oed yn cael eu cadw mewn canolfannau yng Nghymru a Lloegr ym mis Ebrill y llynedd.
“Mae’r rhai sydd yn y ddalfa yn awr yn fwy tebygol o fod wedi cyflawni’r troseddau mwyaf difrifol, gan gynnwys gweithredoedd trais,” meddai’r adroddiad.
Mae cynnydd yn nifer y digwyddiadau treisgar yn “achos pryder”, dywed yr adroddiad wedyn, gan nodi bod 2,900 o ymosodiadau wedi’u cofnodi yn ystod 2015-16.
Mae hyn yn gyfystyr â 18.9 o ddigwyddiadau fesul 100 o blant, bron ddwbwl y gyfradd a gofnodwyd yn 2010-11.