Mae ymchwil yn dangos y gallai unrhyw gamau gan Lywodraeth Prydain i gael gwared ar y pensiwn triphlyg, wneud cymaint â 3.5 miliwn o hen bobol yn dlodion erbyn y flwyddyn 2050.
Ond fe allai hefyd effeithio ar bobol ifanc, sydd ar ddechrau eu bywyd gwaith – yn enwedig os ydyn nhw ar gyflogau isel.
“Mae gan y DU y pensiwn lleiaf hael yn y byd datblygedig eisoes,” meddai’r adroddiad ar y cyd gan y TUC, Age UK a Centre for Ageing Better.
“Byddai cael gwared ar y clo triphlyg yn cynyddu tlodi pensiynwyr ac yn taro’r rhai tlotaf fwyaf,” meddai ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Frances O’Grady.