Mae pennaeth heddlu arfog Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn galw am roi’r hawl i bob plismon gario gwn Taser.
Daw ymateb Simon Chesterman yn sgil y perygl cynyddol i blismyn rheng flaen o du brawychwyr.
Cafodd y syniad o ychwanegu at y plismyn fyddai’n gallu derbyn hyfforddiant ei grybwyll y llynedd yn sgil adolygiad yn dilyn nifer o ymosodiadau brawychol yng ngwledydd Prydain.
Aeth bron i flwyddyn heibio ers yr ymosodiad gan Khalid Masood a laddodd y plismon Keith Palmer ger San Steffan, a chafodd plismon arall ei anafu wrth ymateb i’r digwyddiad ar bont Westminster.
Cafodd yr ymosodwyr eu saethu’n farw gan yr heddlu yn y pen draw.
‘Angen mwy o drafod’
Mewn cyfweliad â’r Sunday Times, dywedodd Simon Chesterman: “Yn bersonol, fyddwn i ddim eisiau bod yn swyddog patrol ar y rheng flaen nawr heb Taser.
“Fy marn i yw pe bai swyddog am ei gario ac y gallan nhw gyrraedd y safon, y dylid rhoi’r hawl iddyn nhw ei gario.
“Dw i’n credu y dylen ni fod yn trafod hyn ymhellach gyda’r cyhoedd.”
Yn ôl y Cyngor, maen nhw am weld heddluoedd unigol yn penderfynu pwy fydd yn derbyn hyfforddiant ac yn cael cario’r Taser, ac mae Simon Chesterman yn cytuno â hynny.
Serch hynny, meddai, mae rhai pobol yn dal i ystyried y Taser i fod yn “offeryn artaith”.