Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi rhybuddio teithwyr trenau i beidio â cheisio mynd allan os yw eu trên yn cael ei dal yn yr eira.

Mae’n dilyn pryder ar ôl i deithwyr ar drên ger Lewisham yn ne Llundain neidio allan a cherdded ar y cledrau gan darfu ar wasanaethau Southeastern Rail.

Fe fu’n rhaid i’r cwmni trenau ddiffodd y pŵer yn yr ardal am resymau diogelwch, a galwodd ar yr heddlu i ddelio â’r “digwyddiad difrifol o dresmasu”.

Mewn datganiad ar Twitter, dywed Heddlu Trafnidiaeth Prydain:

“Er nad yw’n braf cael eich caethiwo ar drên, rydych yn llawer saffach y tu mewn na’r tu allan.

“Rydych yn peryglu eich bywyd wrth gerdded ar gledrau byw, ac mae oedi pellach yn anochel os oes yn rhaid diffodd y pŵer am resymau diogelwch.”