Fe fydd Theresa May yn trafod oblygiadau Brexit i bwerau seneddau Cymru a’r Alban gyda Carwyn Jones a Nicola Sturgeon mewn cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar 14 Mawrth.
Yn dilyn ei haraith ar Brexit ddoe, fe wnaeth Theresa May ffonio’r ddau brif weinidog i drafod ei syniadau.
Mae hyn yn dilyn anghydfod rhwng y llywodraethau ynghylch pwerau a fydd yn cael eu dychwelyd o Frwsel.
Pryder Carwyn Jones a Nicola Sturgeon yw bod cymal 11 o Bil Gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfystyr â San Steffan yn cipio grymoedd ddylai fynd i Gymru a’r Alban, ac maen nhw wedi cynnig eu deddfwriaeth eu hunain i rwystro hyn.
Wrth drafod sgwrs Theresa May a Carwyn Jones neithiwr, meddai llefarydd ar ran Rhif 10 Downing Street:
“Dywedodd y Prif Weinidog y dylai’r cytundeb newydd a geisiwn gyda’r Undeb Ewropeaidd ddiogelu swyddi a diogelwch pobl Prydain a chryfhau’r undeb o genhedloedd yn y Deyrnas Unedig. Fe wnaeth hi hefyd gyfeirio at bwysigrwydd parhau i weithio gyda’n partneriaid Ewropeaidd i roi sicrwydd i fusnesau ledled y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.
“Dywedodd y ddau Brif Weinidog y bydden nhw’n edrych ymlaen at gyfarfod llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar 14 Mawrth i drafod ymhellach.”