Mae’n ymddangos nad yw Theresa May yn llawn ddeall canlyniadau gadael yr undeb tollau a’r farchnad sengl, yn ôl Leo Varadkar, prif weinidog Iwerddon.

“Dw i’n dal yn bryderus am ffin Iwerddon ar ôl Brexit,” meddai’r Taoiseach, wrth ymateb i araith Theresa May ar y pwnc ddoe.

“Er ei bod hi wedi dweud rhai pethau calonogol ar gytundeb Gwener y Groglith a’r ffin, mae angen ar frys i hyn gael ei gadarnhau gyda chynigion manwl gan Brydain.

“Mae’r amser yn fyr gan fod Brexit i fod i ddigwydd mewn ychydig dros 12 mis.”