Mae un o adeiladau hanesyddol Caerfyrddin lle digwyddodd un o derfysgoedd Beca bron i ddwy ganrif yn ôl wedi cael ei ddifrodi gan dân mawr.
“Cafodd pobol y dre eu brawychu a’u siomi pan aeth hen Dloty Penlan yn wenfflam bnawn ddoe,” meddai Maer Caerfyrddin, y Cynghorydd Alun Lenny.
“Yr unig fendith yw na chafodd neb niwed yn y tân, ac mae’r diffoddwyr tân i’w canmol yn fawr iawn am rwystro’r fflamau rhag lledaenu i dai ac adeiladau cyfagos eraill.
“Mae i’r Tloty le unigryw yn hanes Cymru. Yn 1843, pan oedd cannoedd o ‘Ferched Becca’ wrthi’n chwalu’r lle mewn protest yn erbyn Deddf y Tlodion, fe ymosodwyd arnynt gan farchfilwyr y Light Dragoons, yn carlamu i fyny’r llethr lle mae Teras Waterloo nawr. Dyma’r ymosodiad olaf erioed gan farchfilwyr ar dir mawr Prydain.
“Ar nodyn personol, fe fûm i’n gweithio fel gohebydd cyntaf Radio Cymru yng Nghaerfyrddin o swyddfa fechan y BBC yn yr adeilad yma o 1978-81.
“Peth diflas oedd gweld y lle, sydd mewn dwylo preifat, yn mynd i’r fath gyflwr gwael cyn y tân, er gwaethaf ymdrechion cynghorwyr lleol y ward honno fu’n pwyso am adfer yr adeilad.”
Ychwanegodd fod yr heddlu wrthi’n archwilio’r safle, ac nad oes neb yn gwybod eto os cafodd y tân ei gynnau’n fwriadol.