Mae’r Comisiwn Elusennau wedi dechrau ymchwiliad i waith Oxfam, yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol ac ymddiswyddiad un o’i phrif ffigyrau.
Bellach mae’r elusen wedi ymddiheuro yn sgil honiadau bod ei gweithwyr wedi ymweld â phuteiniaid wrth weithio yn Haiti saith blynedd yn ôl.
Wrth gyhoeddi ei hymddiswyddiad, dywedodd y Dirprwy Prif Weithredwr, Penny Lawrence, bod Oxfam yn wynebu brwydr i “adfer ffydd y cyhoedd”.
Yn ôl y Comisiwn Etholiadol, mae’n bosib fod Oxfam wedi methu â “datgelu manylion am yr honiadau, mewn modd onest a llawn, ar y pryd yn 2011″.
“Annerbyniol”
“Mae elusennau a gweithwyr cymorth, gweithgar ac ymroddedig, yn cyflawni gwaith allweddol sydd yn achub bywydau,” meddai Dirprwy Prif Bennaeth y comisiwn, David Holdsworth.
“Fodd bynnag, mae’r materion sydd wedi dod i’r amlwg dros y dyddiau diwethaf yn codi syndod, ac yn annerbyniol. Mae’n bwysig ein bod yn gweithredu ar frys i sicrhau ein bod yn delio â’r materion.”
Datblygiadau eraill:
· Mae cyn-Bennaeth Diogelu Oxfam, Helen Evans, wedi galw ar brif aelodau staff i fynd i’r afael â’r honiadau.
· Mae Prif Weithredwr Oxfam, Mark Goldring, wedi dweud na fydd yn camu o’r neilltu.