Fe fydd y syniad am drethu tir gwag yn cael ei gyflwyno er mwyn profi pwerau Deddf Cymru 2014, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid ym Mae Caerdydd, Mark Drakeford, am amlinellu heddiw y camau nesaf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn creu trethi Cymreig newydd.
O dan Deddf Cymru 2014, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i gyflwyno trethi ar gyfer y meysydd hynny sydd wedi’u datganoli.
Ym mis Hydref y lynedd, fe gyhoeddodd Mark Drakeford bedwar syniad newydd ar gyfer trethi newydd, sef:
- ardoll gofal cymdeithasol;
- treth ar dir gwag;
- treth ar blastig sydd ddim yn bosib ei ail-gylchu;
- treth ar dwristiaeth.
Daw’r pendefyniad mai treth ar dir gwag a fydd yn cael ei cyflwyno yn dilyn trafodaeth rhwng gwahanol adrannau’r Llywodraeth, sefydliadau rhan-ddeiliaid a’r cyhoedd.
Mae’r Llywodraeth yn credu y byddai cyflwyno’r dreth yn ysgogi datblygiadau i adfywio safleoedd, ac yn eu hatal rhag dadfeilio.
Treth ar dir gwag – beth yn union?
“Beth mae’n gallu ein helpu ni i wneud,” meddai Mark Drakeford, “yw cefnogi ein blaenoriaethau o ran tai ac adfywio… ble mae’r tir ar gael, ond dyw’r tir ddim yn gwneud dim byd (yn wag), mae cyflwyno treth yn newid ymddygiad pobol…
“Mae’n helpu ein agenda ni, achos mae agenda gyda ni i adeiladu tai yng Nghymru a hefyd yn y maes adfywio…
“Fe fydd yn ein helpu ni i ddefnyddio’r pwerau sydd ganddon ni dan Ddeddf Cymru 2014, i dynnu pwerau o San Steffan i Gymru ac i gael syniadau am drethi sydd yn berthnasol i ni yng Nghymru yn unig.”
“Y syniad mwyaf addas” o’r pedwar
“Mae tai yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru,” meddai Mark Drakeford. “Gallai treth ar dir gwag atal yr arfer o fancio tir a pheidio datblygu tir o fewn yr amserlen ddisgwyliedig.
“Mae ardoll tir gwag Gweriniaeth Iwerddon yn fan cychwyn defnyddiol i ystyried sut gallai treth ar dir gwag weithredu yng Nghymru. R’yn ni wedi bod yn lwcus, r’yn ni wedi cael lot o help gan Iwerddon… ond dydyn ni ddi jyst yn mynd i godi beth maen nhw wedi’i wneud a’i weithredu yng Nghymru.
“Mae’r model sydd eisoes yn bodoli yng Ngweriniaeth Iwerddon a ffocws cymharol gyfyng y dreth yn golygu mai dyma’r syniad mwyaf addas o’r pedwar ar y rhestr fer ar gyfer profi Deddf Cymru.”