Mae’r BBC wedi cynnig cyfyngu ar gyflogau’r rheiny sy’n gweithio ar raglenni newyddion, gan eu rhwystro rhag ennill dros £320,000 y flwyddyn.
Fe ddaw hyn wedi’r ffrae gyhoeddus iawn tros y gwahaniaeth yng nghyflogau merched a dynion o fewn y Gorfforaeth, a bod cyflwynwyr yn cynnwys Huw Edwards, John Humphrys a Jeremy Vine – wedi cytuno i dderbyn gostyngiad yn eu cyflogau.
Fe fyddai golygyddion a gohebwyr yn cael eu heffeithio gan y cap.
Yn ôl ffigyrau a gafodd eu rhyddhau y llynedd, mae cyflog Jeremy Vine ymysg yr uchaf o fewn y BBC, rhwng £700,000 a £749,999.
Problem â menywod?
Mewn adroddiad, mae grŵp sy’n cynrychioli menywod yn y BBC wedi dweud eu bod wedi derbyn ambell “awgrym o fygythiad” wrth geisio tynnu sylw at yr anghydraddoldeb tâl.
Mae Golygydd Tsieina’r BBC, Carrie Gracie, ymddiswyddo mewn protesr ar y mater.
Bydd Prif Gyfarwyddwr y darlledwr, Tony Hall, yn cael ei holi gan Aelodau Seneddol ynglŷn â diwylliant cyflogau y BBC.