Mae cyfoeth yn gallu achosi pobol i ffafrio perthnasoedd tymor byr, yn ôl ymchwil newydd.
Mae’r ymchwil wedi ei gynnal gan yr adran Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe, lle bu 151 o wirfoddolwyr – 75 o ddynion a 76 o ferched – yn edrych ar luniau o 50 partner posib, cyn nodi a fyddai’n well ganddyn nhw gael perthynas hirdymor neu dymor byr â nhw.
Yna, rhoddwyd cyfres o luniau o’u blaenau a oedd yn cynnwys eitemau moethus – ceir cyflyn, gemwaith, plastai ac arian – cyn eu holi nhw eto i edrych ar luniau o bartneriaid posib gan ofyn iddyn nhw pwy yr hoffen nhw fod mewn perthynas â nhw.
Roedd mwy yn dewis partneriaid tymor byr ar ôl gweld y lluniau o bethau moethus, o gymharu â’r canlyniadau gwreiddiol – gyda chynnydd o tua 16%.
Newid amgylchiadau’n ffactor
Yn ôl Dr Andre G Thomas, arweinydd yr ymchwil, mae’r canlyniadau hyn yn dangos sut mae’r newid mewn amgylchiadau materol yn gallu pennu’r math o berthynas mae pobol yn ei ffafrio.
“Mae seicolegwyr esblygiadol yn credu bod hoffter pobl o berthynas hirdymor neu dymor byr yn dibynnu’n rhannol ar eu hamgylchiadau, megis pa mor anodd y gallai fod i fagu plant fel rhiant sengl,” meddai.
“Yn bwysig, pan fydd yr amgylchiadau hynny’n newid, disgwyliwn i bobol newid eu dewisiadau’n unol â hynny.
“Ar ôl i gyfranogwyr [yr ymchwil] dderbyn cliwiau bod gan yr amgylchedd lawer o adnoddau, daethant yn fwy tebygol o ddewis unigolion am berthynas tymor byr.”