Mae gwraig yn ei 60au wedi marw yn dilyn tân mewn byngalo yng Nghernyw ar Nos Galan.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r cyfeiriad yn nwyrain Looe tua 8.20yh ddydd Sul.
Fe fu sawl criw o Wasanaeth Tân ac Achub Cernyw yn ymladd y fflamau a ddinistriodd yr adeilad.
Heddiw, mae Heddlu Dyfnaint a Chernyw wedi cadarnhau fod gwraing wedi’i chanfod yn farw yn y ty, a bod ei theulu agosaf wedi cael gwybod.
Mae achos y tân yn cael ei drin fel un “heb esboniad” ar hyn o bryd, ac mae’r heddlu yn dal ar y safle yn ei warchod.