Fe fydd gwasanaeth mawr yn cael ei gynnal union chwech mis wedi’r tân a laddodd 71 o bobol mewn bloc o fflatiau yn Llundain.

Ond fydd cynrychiolwyr y cyngor lleol ddim yno ar ôl i deuluoedd Tŵr Grenfell ddweud nad oedden nhw eisiau eu gweld yn y gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol St Paul.

Mae disgwyl y bydd y Prif Weinidog, Theresa May, a’r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, yn ymuno â channoedd o berthnasau’r rhai a fu farw.

Rhosod gwyn

Mae disgwyl tua 1,500 o bobol yn y gwasanaeth i gofio’r tân yn y fflatiau ym Mwrdeistref Kensington a Chelsea.

Fe fydd tua hanner y rheiny’n perthyn i’r meirw neu wedi goroesi’r tân eu hunain a’r disgwyl y byddan nhw’n gadael y gwasanaeth gyda rhosod gwyn.

Fe ddywedodd un o’r trefnwyr eu bod yn gobeithio am wasanaeth a fyddai’n helpu pobol i wella ac yn dweud y gwir.

Mae Cyngor Bwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea wedi cael eu condemnio am beidio â chymryd sylw o rybuddion diogelwch am Dŵr Grenfell a’u methiant i ofalu am bobol wedyn.