Bydd y Prif Weinidog, Theresa May, yn teithio i Frwsel heddiw ychydig oriau wedi i’w Llywodraeth golli pleidlais bwysig ar ddeddfwriaeth Brexit.
Mae gwrthryfelwyr Ceidwadol wedi cael eu beirniadu gan Frexitwyr brwd am “danseilio” y Prif Weinidog cyn iddi fynd i gyfarfod allweddol i symud y trafodaethau gadael yn eu blaen.
O ganlyniad i’r bleidlais ddoe, pan wrthryfelodd 11 o Dorïaid, fe fydd gan Aelodau Seneddol a’r Arglwyddi hawl i bleidlais allweddol cyn i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb.
Dim ond pedwar oedd y mwyafrif o blaid y newid ac roedd nifer o Geidwadwyr hefyd wedi ymatal.
Cyfarfod anodd
Yn ystod y gynhadledd deuddydd sy’n dechrau heddiw, fe fydd Theresa May yn cyfarfod ag arweinwyr y 27 gwlad arall gan obeithio am eu cefnogaeth i symud i’r cam nesa’ o drafodaethau Brexit.
Roedd disgwyl i’r gynhadledd fod yn brofiad ddigon lletchwith i’r Prif Weinidog beth bynnag.
Yn awr, meddai Brexitwyr, fe fydd embaras y bleidlais yn codi cwestiynau am ei hawdurdod dros ei phlaid a’i gallu i weithredu Brexit.
Rhwystr arall
Rhwystr arall sy’n wynebu Theresa May yw’r posibilrwydd na fydd trafodaethau masnach Brexit yn dechrau’n union wedi’r gynhadledd.
Mae prif drafodwr Brexit yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, mai’r flaenoriaeth fydd cadarnhau’r cytundeb ar ffiniau Iwerddon, cyn dechrau ar y trafodaethau masnach.