Mae Sweden wrthi’n sefydlu ei chatrawd filwrol newydd gyntaf ers yr Ail Ryfel Byd.
Fe fydd 350 o filwyr yn cael eu lleoli yn nhref Visby ar ynys Gotland ym Môr y Baltig o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
Yn ôl Gweinidog Amddiffyn y wlad, Peter Hultqvist, cafodd y penderfyniad i sefydlu’r gatrawd ei wneud oherwydd bod sefyllfa ddiogelwch y wlad “wedi gwaethygu”.
Mae Rwsia wedi bod yn gweithredu’n filwrol yno ers atodi’r Crimea yn 2014 a’r gwrthdaro yn yr Wcráin.
Mae 58,000 o bobol yn byw ar ynys Gotland, ac fe gafodd ei chatrawd gyntaf ei sefydlu yn 1886 a’i diddymu yn 2005.