Mae’r BBC wedi gofyn i’w cyflwynwyr nhw gyfeirio ar derfysgoedd Lloegr yn hytrach na therfysgoedd y Deyrnas Unedig.
Dyw’r trafferthion mewn dinasoedd gan gynnwys Llundain, Manceinion, Birmingham a Bryste heb groesi’r ffin i Gymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon eto.
Dywedodd y gorfforaeth eu bod nhw’n newid eu polisi “wrth gydnabod teimladau pobol yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon”.
“Er mai dim ond yn Lloegr yr oedd y terfysg wedi bod yn digwydd, roedden ni wedi bod yn canolbwyntio i ddechrau ar effaith hynny ar y Deyrnas Unedig yn ei gyfanrwydd,” meddai llefarydd ar ran yn gorfforaeth.
“Er enghraifft, fod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn dychwelyd a’r penderfyniad i alw Senedd y Deyrnas Unedig yn ôl.
“Serch hynny, dyw’r terfysg ddim wedi lledu y tu hwnt i sawl dinas a thref yn Lloegr i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
“Rydyn ni wedi gwrando ar adborth ein cynulleidfaoedd ac yn cyfeirio at Loegr yn unig er mwyn gwneud hynny’n glir.”
Beirniadwyd y BBC pan ddechreuodd y terfysg am alw’r bobol oedd yn cymryd rhan yn ‘brotestwyr’. Dywedodd y gorfforaeth eu bod nhw wedi newid y polisi hwnnw hefyd.
Roedd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, ymysg y rheini oedd wedi galw ar y BBC i roi’r gorau i gyfeirio at y Deyrnas Unedig wrth drafod y terfysg.
Dywedodd fod gan yr Alban “gymdeithas wahanol heb unrhyw hanes o’r math yma o anrhefn”.
Ond dywedodd Willie Rennie, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban, fod Alex Salmond “yn ceisio gwneud elw gwleidyddol o drallod pobol eraill”.
“Dyma’r math gwaethaf o genedlaetholdeb ac rydyn ni’n haeddu gwell gan ein Prif Weinidog,” meddai.