Daniel Davies
Gyda’i radd wyddonol, does ryfedd mai ymdrin â’r pwnc hwnnw y mae’r llyfr a gipiodd Wobr Daniel Owen i Daniel Davies.
Mae Daniel Davies yn dweud ei fod wedi treulio tair blynedd ar y nofel Tair Rheol Anhrefn – blwyddyn a hanner yn cynllunio, “yn cerdded o gwmpas” ac mae’r nofel yn defnyddio’i wybodaeth wyddonol gyd chyfres o bosau dyddiol yn arwain y prif gymeriad o le i le.
“Fe ddaeth hi’n weddol rwydd,” meddai’r awdur, a raddiodd mewn Cemeg o Brifysgol Aberystwyth. “Dyna’r math o nofel dw i’n gallu ei gwneud mae’n siŵr. Falle ei fod e’n dod o gefndir gwyddonol neu fathemategol. Mae cael strwythur yn bwysig.”
Dylanwad amlwg arno yw hen ffilmiau ac awduron y mae eu nofelau bellach yn cwato ar silffoedd clasuron cwlt y siopau. Mae’r cymeriad Dr Paul Price “yn dipyn o ingenue,” meddai, “yn nhraddodiad Paul Pennyfeather yn llyfr Evelyn Waugh, Decline and Fall.”
Dylanwadau eraill ar y nofel hon yw straeon awduron fel John Buchan, Donald E Westlake a Herman McNeile a ffilmiau fel North by Northwest gan Hitchcock.
“O’n i jyst yn dwlu gwylio ffilmiau ers pan o’n i’n fach,” meddai. “Ro’n i’n gwylio llawer o ffilmiau, yn enwedig rhai o’r 1930au, 1940au a’r 1950au, ble’r oedd y stori yn bwysig – ffilmiau Billy Wilder a Hitchcock ac yn y blaen, a’r Ealing Comedies.”
“Falle mod i’n sgrifennu’r math o nofel y buaswn i’n mwynhau ei darllen,” meddai. “Ond dydach chi ddim yn mynd i blesio pawb; dyw hi ddim at ddant pawb.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 11 Awst