Manon Rhys
Mae enillydd y Fedal Ryddiaith yn cydnabod i’r profiad o ysgrifennu’r nofel fuddugol Neb Ond Ni fod yn anodd ac emosiynol iddi ar adegau, a hynny am iddi sgwennu am blant sydd ag anghenion arbennig yn byw yn yr 1970au.
“Oedd hi yn anodd. Ro’n i yn mynd yn reit emosiynol ambell waith,” meddai Manon Rhys. “Ro’n i’n teimlo’n warchodol iawn o’r ddau blentyn. Ro’n i eisie eu helpu nhw ac eto doeddwn i ddim yn medru, am nad oedden nhw ddim yn byw yn y cyfnod iawn er mwyn i bobl fedru eu helpu nhw.”
Cyfres o fonologau yw’r gwaith wedi ei seilio ar fywyd dau blentyn yn niwedd y 1970au. Mae’r ddau’n “obssessed” efo caneuon Cwm Rhyd y Rhosyn, sef casgliad o ganeuon gan Dafydd Iwan ac Edward Morris Jones, a dyma gefndir y stori.
“Dw i’n trio dweud yn y nofel nad ydi bywyd ddim mor hapus a llawen â byw yng Nghwm Rhyd y Rhosyn. Hynny yw, mae Dafydd Iwan yn defnyddio’r lle bendigedig yma, lle llawn hapusrwydd a direidi a bob math o bethe fel yna.
“Ond mae gan Siriol a Dewi broblemau. Maen nhw’n blant arbennig oherwydd eu bod nhw angen sylw arbennig. Mae Siriol yn cael trafferth i gerdded ac i weld ac mae mewn cadair olwyn. Mae Dewi’n blentyn iach iawn, hapus, byrlymus ond mae ganddo fe broblem am nad yw e’n meddwl yn yr un ffordd â phobl eraill.”
Mae Manon Rhys yn dweud ei bod wedi gorfod gwneud gwaith ymchwil cyn bwrw ati i ysgrifennu. “Dyw hi ddim wedi ei seilio ar neb yn benodol, ond mae yna blant yn ein bywyde ni i gyd sydd yn debyg i hyn, ac eisie tynnu sylw at hyn a thalu teyrnged iddyn nhw oeddwn i.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 11 Awst